Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 12:39 GMT

Tân marwol: Cyhoeddi enw dyn

Car heddlu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw oherwydd tân yn ardal Abergwaun, Sir Benfro.

Roedd Terrance Keith Jones yn 57 oed.

Yn ôl llygad-dyst, fe ledodd y tân o gar ar fferm Ciliau West yn Llanwnda ger Gwdig toc wedi 9pm nos Sul.

Fe gafodd dwy injan dân - un o Dyddewi ac un o Abergwaun - eu galw.

Yn ôl yr heddlu, dyw'r farwolaeth ddim yn amheus.

Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer Swyddfa'r Crwner.





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd