Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 8 Tachwedd 2009, 17:47 GMT

Rhybudd am goginio yn feddw

Mae un o uwch swyddogion y gwasanaeth tân wedi dweud y dylai pobl gael bwyd parod yn hytrach na choginio pan maen nhw wedi bod yn yfed.

Daw ei sylwadau ar ôl i ddyn 24 oed gael ei achub o dy ym Mhrestatyn.

Eglurodd Gwasanaeth Tân y Gogledd bod y dyn wedi bod yn yfed ac nad oedd o wedi clywed y larwm mwg yn y tŷ yn Ffordd Grosvenor am 4.32am.

Fe wnaeth cymdogion weld y mwg a chysylltu gyda'r gwasanaethau brys.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y dyn wedi syrthio i gysgu wrth goginio.

"Ein cyngor ydi i beidio byth a choginio ar ôl bod yn yfed," meddai Tom Pye o'r gwasanaeth tân.

Dim yfed a choginio

"Gwnewch frechdan yn barod cyn mynd allan neu gael bwyd parod ar y ffordd adre."

Dywedodd bod diffoddwyr tân wedi mynd i mewn i'r adeilad ac arwain yr unig berson oedd yn y tŷ allan yn ddiogel.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu i daclo'r fflamau.

Cafodd y dyn driniaeth am effeithiau anadlu mwg gan barafeddygon.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod gril wedi cael ei adael heb neb yn gorchwylio.

"Wrth i nesáu at y Nadolig a thymor y partïon, mae'r digwyddiad yma yn rhybudd na ddylech yfed a choginio," ychwanegodd Mr Pye.

"Mae'n ymddangos bod y dyn yma wedi mynd ati i ddechrau paratoi yfed ac wedi gadael y gril ymlaen cyn syrthio i gysgu.

"Gallai yfed achosi i bobl beidio gweld perygl a hefyd wnaeth y larwm mwg ddim deffro'r dyn."

Ychwanegodd y swyddog y gallai marwolaeth fod wedi digwydd oni bai i'r cymydog weld y mwg.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd