
Fe fydd baton Gemau'r Gymanwlad yn cyrraedd Cymru am y tro cyntaf yn ystod y daith fydd yn dod i ben yn Delhi yn 2010.
Dydd Llun fe fydd y baton yn cyrraedd Wrecsam ac yn cael ei gario drwy'r dref gan wynebau amlwg o'r byd chwaraeon.
Y rhwyfwr Olympaidd Tom James fydd un o'r rhai fydd yn cario'r baton.
Bydd rheolwr tîm pêl-droed y dref, Dean Saunders, yn cael cyfle hefyd i gario'r baton a'r nofwraig lleol Lowri Tynan, sy'n dal record Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Mae'r baton yn ymweld â 70 o wledydd yn y Gymanwlad cyn y gemau yn India.
Cychwynnodd ar ei daith ar Hydref 29 ym Mhalas Buckingham.
TAITH Y BATON DRWY WRECSAMDywed bod y baton yn symbol o undod a syniadau'r gwledydd y Gymanwlad a bod gwledydd y tu hwn i'r ddinas fydd yn cynnal y gemau yn rhan o'r dathliadau.
Fe fydd y baton yn teithio dros 190,000 cilometr mewn 340 niwrnod.
Y tro diwethaf i'r baton ymweld â Wrecsam oedd yn 2002 cyn y gemau gafodd eu cynnal ym Manceinion.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton bod hi'n fraint bod y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn y baton.
"Mae'n gyfle gwych i Wrecsam ddangos yr anodau arbennig sydd yma o ran y byd chwaraeon.
"Mae'n wych gweld y baton yn ôl yng Nghymru."
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Gemau'r Gymanwlad 2010 (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol