
Fe fydd alcohol yn cael ei weini gyda bwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2010.
Yng nghyfarfod Cyngor Urdd Gobaith Cymru yn Aberystwyth ddydd Sadwrn fe wnaed y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau oedd eisoes ar y gweill.
Roedd 'na feirniadaeth wedi bod o'r penderfyniad i ddarparu alcohol ar faes lle mae cymaint o blant.
Ond dywed yr Urdd eu bod yn mynd ymlaen gyda'r cynllun a fydd yn "ceisio gwella ac ehangu'r ddarpariaeth arlwyo ar y maes".
Daw'r drefn newydd i rym yn yr Eisteddfod yng Ngheredigion y flwyddyn nesa a fydd yn cael ei gynnal yn Llanerchaeron ger Aberaeron.
Fe fydd y penderfyniad wedyn yn cael ei asesu ar ôl yr ŵyl.
Roedd yr Urdd eisoes wedi dweud na fyddai bar penodol fel mewn digwyddiadau eraill a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yn hytrach dim ond yn yr adran fwyd a gyda bwyd y bydd alcohol ar gael.
"Roedd 'na wahaniaethau barn yn y cyfarfod," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
"Ond serch hynny, roedd pawb o blaid gweithredu yn unol â'r papur gafodd ei gynnig a sicrhau bod alcohol yn cael ei weini yn gyfrifol gyda bwyd ar y maes.
"Tu hwnt i hynny, mae rhanbarthau'r Urdd wedi cael cyfle erbyn hyn i drafod y mater ac mae nifer helaeth o'r rhanbarthau o blaid mabwysiadau'r gyfundrefn newydd a fydd yn codi ansawdd y ddarpariaeth ar faes yr eisteddfod."
Ychwanegodd Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru, Carol Davies, bod y penderfyniad yn rhan o gynlluniau ehangach gafodd eu cytuno gan y Cyngor yn gynharach eleni o ran gwella ac ehangu'r ddarpariaeth arlwyaeth ar y maes.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Urdd Gobaith Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol