
Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i danau mewn dau dŷ haf gwag ar Ynys Môn, wedi rhyddhau dau ddyn 22 a 29 oed ar fechnïaeth.
Cafodd y ddau adeilad eu difrodi gan danau ddechreuodd o fewn 40 munud ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r adeilad yn Nhŷ Croes am 6.30am ac i'r adeilad ym Mhencarnisiog toc wedi 7am.
Ar ôl ymchwiliad daeth yn amlwg bod y tanau wedi cael eu cynnau'n fwriadol.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Y rhif ffôn yw 101, 0845 607 1001 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Heddlu Gogledd Cymru
Gwasanaeth tān ac Achub Gogledd Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol