Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 17:22 GMT

Ymgeisydd o blaid refferendwm

Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones, un o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru, wedi ailddatgan ei gefnogaeth i gynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn i Gymru.

Daw ei ddatganiad wedi dyfalu y byddai ei addewid i drafod gyda'i blaid cyn cynnal refferendwm ar ragor o bwerau yn creu tensiynau o fewn y glymblaid.

Mae cytundeb Cymru'n Un gyda Phlaid Cymru, arweiniodd at sefydlu'r glymblaid, yn nodi y dylid cynnal refferendwm cyn etholiadau'r cynulliad yn 2011.

Roedd rhai o aelodau Plaid Cymru yn pryderu y byddai hyn yn rhwygo'r glymblaid.

Ond dywedodd Mr Jones ei fod yn dal yn gefnogol i'r cytundeb a'r addewid i gynnal refferendwm.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Confensiwn Cymru Gyfan wedi bod yn casglu barn y cyhoedd a ydyn nhw eisiau mwy o bwerau i'r Cynulliad.

Ymgynghoriad

Mae disgwyl y bydd adroddiad terfynol y Confensiwn, o dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis.

Mae disgwyl y bydd yn dweud y dylid cynnal refferendwm.

Fe fydd disgwyl wedyn i Brif Weinidog newydd Cymru, a fydd yn cychwyn ar ei waith ar Ragfyr 8, a'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, benderfynu bwrw ymlaen a'i peidio gyda'r bleidlais.

"Ond o ran y refferendwm mae'n rhan o'r cytundeb ac felly mae'n bwysig cadw ato"


Carwyn Jones

Bore Sadwrn fe wnaeth Carwyn Jones awgrymu y dylid ymgynghori gyda'r holl aelodau cyn penderfynu bwrw ymlaen gyda'r refferendwm.

"Dwi'n gwbl ymroddedig i'r hyn sydd yng nghytundeb Cymru'n Un," meddai.

"Ond ddylai hynny ddim atal fy nghyfrifoldebau, os gaf fy ethol, i ymgynghori ymhellach gyda'r blaid ar gasgliadau adroddiad y confensiwn.

"Nid mater i'r ACau yn unig ddylai'r adroddiad fod.

"Fe ddylid ymgynghori yn llawn gyda'r mudiad Llafur i gyd yng Nghymru, yr ACau, yr ASau, yr aelodau lleol a'r undebau."

Yn ddiweddarach ddydd Sadwrn fe wnaeth Mr Jones egluro ei safiad drwy ddweud ei fod eisiau cadw at yr hyn sydd yng nghytundeb Cymru'n Un a chael refferendwm cyn 2011.

"Mae hyn yn rhywbeth dwi'n cytuno arno.

"Fe fydd 'na sawl casgliad yn dod o adroddiad Syr Emyr Jones Parry a dwi'n siwr y bydd pob plaid eisiau cymryd barn aelodau am y cynnwys.

"Ond o ran y refferendwm mae'n rhan o'r cytundeb ac felly mae'n bwysig cadw ato.

"Rydym wedi cael pleidlais o fewn y Blaid Lafur rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl ac felly fyddwn ni ddim yn gofyn barn yr aelodau eto.

"Dwi o blaid y cytundeb ac eisiau sicrhau ein bod yn cadw ato."

Cefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod Carwyn Jones wedi bod o blaid cael mwy o bwerau.

"Mae nifer o ASau Llafur yn ddiamynedd fel yr ydym ni ym Mhlaid Cymru i sicrhau mwy o bwerau deddfu ac maen nhw hefyd yn credu bod y cytundeb presennol yn anghynaliadwy.

"Mae Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi cytuno yn ffurfiol i gynnal refferendwm cyn neu ar ddiwedd y term presennol yma ac rydym yn edrych ymlaen at gychwyn ar y paratoadau."

Mae'r ddau ymgeisydd arall am yr arweinyddiaeth, Edwina Hart a Huw Lewis, wedi dweud y byddan nhw yn cynnal refferendwm gyda chefnogaeth y mudiad Llafur yng Nghymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad maen nhw'n edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad ar Dachwedd 18.





HEFYD:
Cameron: 'Ddim am wrthod cais' (06 Tach 09 |  Newyddion )
Refferendwm: Rhybudd Hain (29 Hyd 09 |  Newyddion )
Confensiwn: Dyddiad cyflwyno (18 Hyd 09 |  Newyddion )
Gillan: Refferendwm yn bosib? (08 Hyd 09 |  Newyddion )
Tri ymgeisydd: 'Ymateb cymysg' (27 Hyd 09 |  Newyddion )
Williams: Galw am fwy o bwerau (20 Medi 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Llafur Cymru
Llywodraeth y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd