
Cafodd 15 o bobl eu harestio gan Heddlu De Cymru o ganlyniad i gêm ddarbi rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Roedd y gêm am 12.45pm yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.
Y tîm cartref enillodd y gêm o 3 gôl i 2.
Cafodd dau o bobl eu harestio yn ystod y gêm gyda'r 13 arall yn cael eu harestio y tu allan i'r stadiwm ar ôl y gêm.
Cafodd y 15 eu harestio am droseddau yn ymwneud a'r drefn gyhoeddus.
Mae'r heddlu wedi canmol y mwyafrif o'r cefnogwyr am eu hymddygiad cyn, yn ystod ac wedi'r gêm.
Roedd dros 18,000 o bobl yn y stadiwm.
"Fe wnaeth y mwyafrif llethol o gefnogwyr ymddwyn yn dda iawn," yn ôl y Prif Uwcharolygydd Mark Mathias oedd yn gyfrifol am blismona'r gêm.
Cefnogaeth
"Roedd 'na rywfaint o anghydfod yn Ffordd Siloh ar ôl y gêm ond diolch i blismona effeithiol roedd yn gyfyngedig.
"Dwi'n derbyn bod gan gemau mawr fel yma effaith ar y gymuned gyfan yn ardal Landore a hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu dealltwriaeth a chefnogaeth."
Roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobl am dagfeydd yn ardal y stadiwm oherwydd y gêm.

Bu'n rhaid i nifer o ffyrdd o amgylch y stadiwm gau gyda gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi Ffordd Castell-nedd rhwng 10am a 4pm a ffordd ddeuol yr A4067 ar ôl 1.30pm.
Roedd swyddogion a cherbydau heddlu ychwanegol ar ddyletswydd gan fod yr un gêm y llynedd wedi ennyn trafferthion rhwng cefnogwyr.
Roedd y ddau glwb wedi annog eu cefnogwyr i fihafio ar ôl y golygfeydd hyll y llynedd.
Cafodd 27 o bobl eu harestio y llynedd ar ôl trafferthion yn ystod gêm yng Nghwpan Carling yn Abertawe ac yn y gêm rhwng y ddau dîm ym Mharc Ninian cafodd y dyfarnwr Mike Dean ei anafu ar ôl i un o gefnogwyr Caerdydd daflu ceiniog tuag ato.
Roedd 1,800 o gefnogwyr Caerdydd yn teithio i Abertawe mewn bysiau ac yn cael eu cludo yn syth yno ac yn ôl.
O ganlyniad i drafodaethau rhwng yr heddlu a'r cyngor lleol fe benderfynwyd y byddai'n well cau Ffordd Castell-nedd o gyffordd Stryd Tabernacl a Ffordd Cwm Level.
Roedd y ffordd yn cael ei ddefnyddio i gadw cerbydau heddlu ychwanegol.
Roedd mynediad i drigolion sy'n byw yno yn cael ei reoli gan yr heddlu.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Heddlu De Cymru
Clwb Pêl-droed Abertawe (Saesneg)
Clwb Pêl-droed Caerdydd (Saesneg)
Stadiwm Liberty (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol