Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 8 Tachwedd 2009, 09:19 GMT

Lluniau milwyr i'r genedl

Lluniau o Harry Patch a Henry Allingham gan Dan Llywelyn Hall

Mae artist o Gymru wnaeth bortreadu'r ddau filwr olaf o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn fuan cyn eu marwolaethau wedi cyflwyno darluniau ohonyn nhw i'r genedl.

Roedd yr artist o'r Barri, Dan Llywelyn Hall, wedi ymweld â'r ddau cyn iddyn nhw farw ym mis Gorffennaf.

Bu farw Henry Allingham yn 113 oed ac roedd Harry Patch yn 111 oed pan fu farw.

Mewn cartref i gyn-filwyr yn Brighton yr oedd Mr Allingham yn byw tra bod Mr Patch yn byw mewn cartref gofal yng Ngwlad yr Haf.

Mae'r lluniau wedi cael eu cyflwyno i'r Casgliad Brenhinol ac i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Lluniau olaf

Fe fydd dau lun yn mynd i'r Casgliad Brenhinol a dau i'r amgueddfa yng Nghaerdydd.

"Fe wnes i gyfres o luniau fel gwaith paratoi cyn mynd ati i wneud y portreadau o Henry a Harry," meddai Mr Llywelyn Hall.

"Maen nhw ymhlith y lluniau olaf o'r ddau.

Lluniau o Harry Patch a Henry Allingham gan Dan Llywelyn Hall

"Gan fod y Teulu Brenhinol wedi ymateb i farwolaethau'r ddau ac roeddwn yn meddwl bod hi'n addas y dylai llun o bob un fynd i'r casgliad.

"Fe wnes i gysylltu gyda'r Frenhines a dwi wedi cael clywed ei bod yn awyddus iawn i dderbyn y lluniau.

"Mae'n wych meddwl y bydd fy lluniau yn yr un casgliad a gwaith enwogion fel Rembrandt.

Mae'r Casgliad Brenhinol yn cynnwys lluniau o frenhinoedd a breninesau ers dros 500 mlynedd.

Caiff y lluniau eu harddangos yn y prif balasau fel Palas Buckingham a Chastell Windsor.

Mae rhai o'r gweithiau yn cael eu benthyca i wahanol sefydliadau hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru eu bod yn falch iawn o dderbyn y lluniau.

"Maen nhw'n luniau pwerus iawn o ddau ffigwr hanesyddol sy'n symbol o genhedlaeth."





HEFYD:
Arddangos llun o'r dyn hyna (24 Gorff 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Y Weinyddiaeth Amddiffyn (Saesneg)
Dan Llewelyn Hall (Saesneg)
St Dunstan's (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd