Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 14:26 GMT

Cyhuddo dyn wedi marwolaeth merch

Louise Ferreira

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn 45 oed o Gaint am achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.

Yn ystod llifogydd ym Mhowys y llynedd bu farw merch ifanc 17 oed.

Fe wnaeth y cerbyd gyriant pedair olwyn yr oedd Louise Ferreira yn teithio ynddo droi drosodd a syrthio i mewn i afon oedd wedi ymestyn ei glannau ger Llyn Brianne ar Fedi 5 2008.

Fe fydd y dyn yn ymddangos o flaen ynadon Llandrindod ar Ragfyr 2.

Aed â Louise, oedd yn dod o Thamesmead, de Llundain, i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn hofrennydd yr Awyrlu.

Roedd hi'n teithio gyda chriw oddi ar y brif ffordd tra ar wyliau i ddathlu canlyniadau "gwych" ei harholiadau.

Bu'n rhaid i ddyn oedd yn y cerbyd gerdded sawl milltir i fferm er mwyn galw'r gwasanaethau brys.





HEFYD:
Glaw trwm: Lladd merch 17 oed (06 Medi 08 |  Newyddion )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd