Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 13:04 GMT

Chwilio am grîwr tref newydd

Criwr Tref (generic)

Mae Aberteifi yn chwilio am grïwr tref ar ôl i'r un diwethaf roi'r gorau i'r swydd bron i 10 mlynedd yn ôl.

Y gobaith ydi bod modd i'r crïwr gadw trefn ar bobl Aberteifi ond hefyd i hysbysu ymwelwyr o'r atyniadau lleol.

Mae Siambr Fasnach Aberteifi yn chwilio am ddyn neu ddynes i gychwyn y gwaith erbyn dathliadau Noson Fictorianaidd y dref ar Ragfyr 8.

Mae'r wisg a'r gloch yn barod ar gyfer pwy bynnag fydd yn llwyddiannus.

Cafodd y gloch ei chanu diwethaf fel rhan o ddathliadau Mileniwm y dref yn y flwyddyn 2000.

Caiff gwrandawiadau eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf am y crïwr tref ddwyieithog.

Dathliadau

"Rydym yn teimlo y bydd crïwr tref yn ychwanegu at ddilysrwydd y digwyddiad sy'n llawn atyniadau a digwyddiadau traddodiadol," meddai cadeirydd y siambr fasnach, Paul Oakley.

"Yn ystod y digwyddiad fe fydd 'na ddigon o gerddoriaeth, canu carolau, goleuo'r golau Nadolig ac fe fydd Siôn Corn ei hun yn ymweld â ni.

"Rydym hefyd yn paratoi at ddathliadau 900 mlynedd Aberteifi yn 2010.

"Oherwydd hynny roeddem yn credu y byddai mwy o alw am grïwr y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Maer y Dref, Mark Cole, ei fod yn gefnogol iawn i'r syniad ac yn gobeithio y byddai'r cyngor tref yn cefnogi hefyd.

Fe fydd Mr Cole yn un o'r beirniaid gyda Mr Oakley a Caroline Sommerville a Neal Jones o bwyllgor y Noson Fictorianaidd.

Mae'n rhaid i'r person llwyddiannus fod yn medru Cymraeg a Saesneg ac fe fydd y gwrandawiadau yn cael eu cynnal nos Iau.

Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu gyda 01239 613966.





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd