Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 07:34 GMT

Babi'n ysbrydoli actor

Igam Ogam

Cafodd yr actor Ioan Gruffudd ysbrydoliaeth gan ei ferch fach newydd ar gyfer ei waith diweddara.

Mae'r actor yn lleisio rhaglen newydd i blant bach, Igam Ogam, a fydd yn cychwyn ar S4C yr wythnos yma.

Ym mis Medi ganwyd Ella Betsi i'r actor a fagwyd yng Nghaerdydd a'i wraig Alice Evans, sydd hefyd yn actores.

Gwnaeth Ioan y gwaith lleisio drwy gysylltiad stiwdio ger ei gartref yn Los Angeles ac un yng Nghaerdydd.

Ond dywedodd yr actor ei fod wedi bod yn ymarfer drwy ddarllen y sgriptiau i Ella Betsi.

Mae Igam Ogam yn dilyn anturiaethau merch sy'n byw mewn ogof.

Mwynhau

Eglurodd yr actor 35 oed ei fod yn falch iawn o gael y cais gan gwmni Calon.

"Mae gan y cwmni record wych o gynhyrchu rhaglenni animeiddio ar gyfer plant ifanc," meddai Ioan.

"Dwi'n gobeithio y bydd Ella Betsi yn mwynhau'r gyfres unwaith y bydd yn hyn.

Ioan Gruffudd a Alice Evans

"Roedd hi'n edrych fel ei bod yn mwynhau'r sgriptiau pan oeddwn i'n eu darllen iddi."

Cafodd y gyfres ei gwneud gan gwmni Calon o Gaerdydd.

Nhw fel cwmni oedd yn gyfrifol am waith creadigol y cyfresi Holi Hana, Superted, Sali Mali a Sam Tan.

"Roeddwn yn falch iawn bod Ioan wedi gallu canfod amser i leisio'r gyfres," meddai cyfarwyddwr lleisiol Cymraeg cwmni Calon, Pat Griffiths.

"Mae ei lais yn wych, yn dwym a dwi'n si?r y bydd y plant ifanc fydd yn gwylio yn meddwl ei fod yn siarad yn uniongyrchol efo nhw."

Ruth Jones o'r gyfres Gavin a Stacey sy'n lleisio'r fersiwn Saesneg fydd i'w gweld yn y gwanwyn.

Mae'r gyfres yn gyd-gynhrychiad S4C, Five, y sianel Gaeleg MG Alba a Cyllid Cymru.

Fe wnaeth cwmni darlledu ABC o Awstralia brynu'r gyfres yn ddiweddar.

Fe fydd Igam Ogam ar S4C am 12.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener o Dachwedd 9-Rhagfryr 4.





HEFYD:
Ioan Gruffudd: Rôl newydd (10 Medi 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Calon TV
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd