Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 11:06 GMT

Dim chware teg, medd hyfforddwyr

Stadiwm Dinas Caerdydd

Cafodd miloedd o bêl-droedwyr wybod na fydd modd iddyn nhw chwarae y penwythnos yma gan fod y tîm cenedlaethol yn chwarae ar yr un diwrnod.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi gohirio gêmau o fewn 50 milltir i Gaerdydd er mwyn i bobl allu mynychu'r gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r Alban.

Ond mae gêmau plant ar fore Sadwrn hefyd wedi cael eu canslo er gwaetha'r ffaith eu bod yn gorffen oriau cyn i'r gêm gyfeillgar ddechrau am 3pm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn ôl yr FAW fe fyddan nhw'n edrych ar y polisi yn y dyfodol, ond ddim cyn y gêm ar Dachwedd 14.

Mae gêmau lleol wedi cael eu gohirio yn y gorffennol pan mae Cymru wedi bod yn chwarae gêmau cystadleuol, ond nid gêmau cyfeillgar.

Dywed hyfforddwyr eu bod yn deall bod gêmau oedolion yn cael eu canslo gan eu bod nhw fel arfer yn cychwyn yn y prynhawn.

Ond mae'r mwyafrif llethol o gêmau plant yn cychwyn yn y bore.

Afresymol

Dywedodd Huw Williams, sy'n hyfforddi un o dimau dan 9 oed yr Urdd yng Nghaerdydd bod y penderfyniad yn "wallgo".

"Mae'n llawdrwm iawn o gofio mai gêm gyfeillgar ydi hi rhwng Cymru a'r Alban.

"Efallai y byddwn yn deall pe tai hi'n gêm ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd.

"Fe allwch chi ddeall y gêmau i oedolion yn cael eu gohirio ond nid y gêmau lleol sylfaenol i blant."

Craig Bellamy yn dathlu sgorio dros Gymru

Dywedodd Julian Straker-Jones, ysgrifennydd clwb Thornhill Athletic yng Nghaerdydd bod hyn yn afresymol.

"Pam rhoi stop ar y plant yn chwarae yn y bore pan mae Cymru yn chwarae yn ddiweddarach?

"Dydi'r ffaith eu bod yn chwarae yn y bore ddim yn eu rhwystro rhag mynd i'r gêm yn ddiweddarach.

"Mae'n cael effaith ar frwdfrydedd y plant."

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd rhai hyfforddwyr yn trefnu gêmau cyfeillgar answyddogol yr wythnos nesaf er mwyn i'r plant barhau i chwarae.

Dywedodd yr FAW mai'r egwyddor oedd annog cymaint â phosib i fynychu'r gêm genedlaethol.

Ond dywedodd llefarydd eu bod yn ymwybodol o rwystredigaeth pobl oedd yn gyfrifol am gêmau sy'n cael eu cynnal yn y bore.

"Yn ôl y rheolau mae'n rhaid canslo'r gêmau ar gyfer y gêm yma, ond fe fyddwn yn edrych ar y rheol yn y dyfodol.

"Does dim modd gwneud dim byd ar hyn o bryd, ond mae'n bosib y gallwn newid hyd ar gyfer gêmau'r dyfodol."

Y gêm rhwng Cymru a'r Alban fydd y gêm ryngwladol gyntaf i gael ei gynnal yn stadiwm newydd Dinas Caerdydd.

Fe wnaeth y stadiwm 26,000 sedd agor ar ddechrau'r tymor.

Wythnos cyn y gêm ac mae tua 12,000 o dicedi wedi cael eu gwerthu gan gynnwys 4,000 i gefnogwyr Yr Alban.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd