Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 10:59 GMT

Gosod pont i greu llwybr beicio

Lon beic

Caiff pont sy'n rhan o lwybr beicio newydd ei chodi i'w lle dros nos.

Mae'r bont droed a beicio yn cael ei gosod ochr yn ochr â phont i gerbydau dros y rheilffordd yng Ngheg y Ffordd, Prestatyn yn Sir Ddinbych.

Yn ychwanegol at greu llwybr diogel ar gyfer beicwyr, y bwriad ydi gwella'r ffordd i blant sy'n cerdded i'r ysgol.

Fe fydd y bont yn rhan o lwybr beicio a fydd yn ymestyn yn y pendraw o ffordd yr A548 sydd ger y glannau i Allt Melyd.

Er mwyn i'r gwaith o osod y bont gael ei wneud fe fydd y bont i gerbydau ar gau nos Sadwrn a nos Sul.

Bydd y gwaith o osod y bont newydd yn cael ei wneud dros nos nos Sadwrn a nos Sul am resymau diogelwch ac i osgoi unrhyw amhariad i'r gwasanaethau trên sy'n defnyddio'r brif reilffordd.

Cwmni Mulcair Limited fydd yn gwneud y gwaith sy'n rhan o Becyn Arfordir Afon Clwyd o £2 filiwn.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Sir Ddinbych
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd