
Mae'r heddlu wedi arestio 21 o bobl mewn cyfres o gyrchoedd ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf.
Roedd y troseddau honedig yn cynnwys difrod troseddol, twyllo, cyflenwi cyffuriau a throseddau'n ymwneud â cheir.
Dydd Iau fe gafodd 10 eu harestio ym Merthyr a Chwm Cynon a 11 eu harestio yn Rhondda Cynon Taf.
Daethpwyd o hyd i swm sylweddol o ganabis yn ystod cyrchoedd yn Nhrebanog a Thonyrefail yn y Rhondda.
Cafodd dau ddyn 25 a 32 oed eu harestio am fod â'r cyffur yn eu meddiant ac o fod â'r bwriad i gyflenwi.
Dywedodd y Prif Arolygydd Keith Prosser: "Ry'n ni'n gwybod mai grŵp bach o unigolion sy'n cyflawni troseddau a dyna pam yr ydyn ni'n targedu troseddwyr cyson.
"Mae'r rhain wedi bod yn gyrchoedd llwyddiannus ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion yn ein cymunedau."