Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 12:01 GMT

Urdd: Anrhydedd i Meriel

Mistar Urdd

Mae prifathrawes dwy ysgol wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 2012.

Fe fydd Meriel Parry, prifathrawes Ysgol Tregarth a Bodfeurig ger Bethesda, wrth y llyw o Dachwedd 18 ymlaen.

"Mae hi'n anrhydedd fawr," meddai.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â thrigolion yr ardal yn gyfan i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus.

"Ac rwy'n ffyddiog y bydd yr Eisteddfod yn dilyn ôl traed Eisteddfodau'r gorffennol ac y bydd hi'n ŵyl i'w chofio."

Mae Meriel wedi cefnogi'r mudiad ers blynyddoedd.

Hi yw Ysgrifennydd Panel Canolog Cerdd Eisteddfod yr Urdd ac Isgadeirydd y Pwyllgor Rhanbarth.

"Rwy'n ddiolchgar i Meriel a'r tîm am eu brwdfrydedd ac yn edrych ymalen at gydweithio er mwyn sicrhau Eisteddfod fythgofiadwy," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Cynnig tir

Isgadeirydd y pwyllgor gwaith yw Gwyn Morris ac Anwen Bumby ac Arwyn Owen Hughes yw'r ysgrifenyddion.

Y trysorydd yw Richard Morris Jones.

Y cam nesa, mae'n debyg, yw gofyn i gymunedau ac unigolion gynnig tir ar gyfer y Maes.

Fe gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yng Ngwynedd y tro diwethaf yn 1998 - Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ar safle Pen-y-berth.

Roedd yr Eisteddfod yn Nyffryn Nantlle yn 1990 ac yn Nolgellau yn 1994.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Urdd Gobaith Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd