Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 8 Tachwedd 2009, 13:47 GMT

Codi arian er mwyn gweld y Gair

Y Parchedig Beti-Wyn James, Alun Lenny, Rhian Evans, Y Parchedig Ddr Watcyn Janes a'r Parchedig Aled Edwards

Mae angen codi £10,000 er mwyn galluogi Cymry dall i ddarllen y Beibl yn Gymraeg.

Dyna neges Pwyllgor Apêl Beibl Braille Cymraeg wrth fynd ati i godi'r arian.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod nhw'n cydnabod mai nifer fechan o bobl fydd yn elwa ond eu bod yn credu y dylai "gan bawb yr hawl i ddarllen y Beibl yn ei iaith ei hun".

"Unwaith mae'r gwaith wedi ei wneud, bydd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod," ychwanegodd.

Un o'r rhai fydd yn elwa yw Rhian Evans o Gaerfyrddin sy'n aelod o'r Pwyllgor Apêl.

Fe gollodd hi ei golwg yn ferch ifanc, tua 30 mlynedd yn ôl.

"Eisoes mae Rhian, un o fy ffrindiau pennaf, yn medru canu emynau bob Sul am fod y geiriau mewn Braille," meddai'r cyn-ddarlledwr Sulwyn Thomas, wrth gefnogi'r apêl.

"Mae cannoedd o lyfrau mewn Braille.

"Cam bach fyddai paratoi'r llyfr pwysicaf ohonynt i gyd mewn Braille Cymraeg."

Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr apêl wedi cyrraedd y nod erbyn y Nadolig.

Eisoes mae Cymdeithas y Beibl wedi cyfrannu arian.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cymdeithas y Beibl
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd