Mae dyn o Wlad Pwyl yn euog o lofruddio 'Tati' Rodgers cyn cuddio ei chorff mewn tir ger Wrecsam.
Bydd Lukasz Respondek, 30 oed, yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener ond mae Mr Ustus Lloyd Jones wedi ei rybuddio y bydd yn wynebu carchar am oes.
Bu Ermatati Rodgers, 41 oed ac yn hanu o Indonesia, ar goll am 14 mis cyn i'r heddlu ddod o hyd i'w chorff ym Mawrth 2009.
Roedd hi wedi bod mewn perthynas â Respondek, gŵr priod â dau o blant.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi ei thagu o bosib gyda'i dei.

Roedd Responkdek wedi honni bod Ms Rodgers wedi marw o achosion naturiol a'i fod wedi cuddio ei chorff mewn panig.
Ond y gwir oedd iddo ei lladd cyn cuddio ei chorff ger hen bwll glo'r Bers.
Pan oedd yn poeni fod yr heddlu ar fin dod o hyd iddi fe geisiodd ei symud. Bu wrthi am dair awr yn ceisio symud y corff ond methodd.
'Oeraidd'
Yna aeth i orsaf yr heddlu.
Roedd yr heddlu wedi amau Responkdek ac wedi defnyddio camerâu cudd wrth olrhain ei symudiadau.
Ar ôl y dyfraniad dywedodd yr heddwas arweiniodd yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Wayne Jones: "O'r diwrnod cyntaf roedd yn amlwg ei fod yn benderfynol, yn oeraidd, ac yn bwriadu rhwystro ein hymchwiliad ni.
"Ei unig gonsyrn oedd gofalu am ei hun - doedd ein hymdrech i ddod o hyd i gorff Tati na theimladau ei theulu a'i ffrindiau ddim yn cyfri."