Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009, 16:46 GMT

Gohebydd amaeth yn marw

Bob Davies

Mae gohebydd amaeth profiadol a newyddiadurwr llawrydd wedi marw yn 69 oed.

Bu Bob Davies, a oedd yn byw yn y Trallwng, Powys, yn gweithio i gylchgrawn y Farmers' Weekly am 44 mlynedd.

Ymhlith y materion y bu'n gohebu arnyn nhw oedd clwy'r traed a'r genau ac argyfwng BSE.

Dywedodd y Farmers' Weekly ar eu gwefan bod Mr Davies wedi marw ddydd Sul ar ôl cymhlethdodau yn dilyn ffliw.

Ymunodd â'r cylchgrawn yn 1965 gan weithio yn y pencadlys yn Llundain.

Flwyddyn yn ddiweddarach symudodd i Gymru i ohebu ar faterion amaeth yng Nghymru.

'Dealltwriaeth gydymdeimladol'

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Gareth Vaughan: "Ers i Bob ddechrau gohebu ar faterion yn effeithio ar ffermwyr Cymru dros 40 mlynedd yn ôl, bu'n gefnogwr ffyddlon a ffrind agos i Undeb Amaethwyr Cymru a'u swyddogion a'u staff.

"Rydw i wastad wedi bod â meddwl uchel iawn ohono oherwydd ei wybodaeth drylwyr a dealltwriaeth gydymdeimladol o'n diwydiant yma yng Nghymru.

"Roedd ei straeon o weithgareddau'r undeb, yn enwedig yn ystod ein blynyddoedd cynnar, bob amser yn feistrolgar a dibynadwy.

"Roedd Bob yn glod i'w broffesiwn."





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Farmers' Weekly
Undeb Amaethwyr Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd