
Mae dyn 54 oed oedd yn defnyddio camerâu cudd i wylio pobl yn dadwisgo ac yn cael rhyw mewn bwthyn yng Ngheredigion wedi cael 30 mis o garchar.
Cafwyd David Sturgess o Abingdon, Sir Rydychen, yn euog o 12 cyhuddiad o ffilmio gweithred breifat er mwyn cael boddhad rhywiol, a thri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Dywedodd y Barnwr Keith Thomas yn Llys y Goron Abertawe fod y troseddau yn "ymyrraeth enbyd â phreifatrwydd" a'u bod wedi effeithio ar ddioddefwyr yn fawr.
"Roedd hwn yn llety preifat yr oedd pobl wedi eich talu i'w rentu ar gyfer gwyliau teuluol.

"Roedd ganddyn nhw hawl i rywfaint o breifatrwydd."
Cafodd Sturgess ei wahardd hefyd rhag gweithio â phlant.
Clywodd y llys ei fod wedi cuddio camerâu mewn bwthyn yn Llandysul yr oedd yn ei rentu i ymwelwyr.
Roedd y camerâu mewn larymau tân ffug ac yn ffilmio gwesteion yn dadwisgo, yn y gawod ac yn cael rhyw.
Roedd rhai o'r twristiaid gafodd eu ffilmio o dan 18 oed.
Ei gyn gariad Teresa Crick wnaeth son wrth yr heddlu am y camerâu ar ôl i'r ddau wahanu.
Dywedodd Ms Crick, 51 oed, y byddai Strugess yn gwylio'r gwestai noeth ar fonitor teledu.
Clywodd y llys fod Sturgess wedi troseddu o'r blaen, gan gynnwys ymosod ac ymosod yn anweddus.