
Mae'r heddlu wedi enwi'r ferch dair oed a'i thad 35 oed fu farw ar ôl syrthio 50 troedfedd i lawr rhaeadr ger Harlech.
Roedd James Scott Gallacher a'i ferch Soraya Alicia Gallacher yn dod o ardal Partington ger Manceinion.
Fe syrthiodd y ddau i lawr rhaeadr Nancol ddydd Sadwrn.
Roedd y teulu yn gwersylla gerllaw.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio i'w marwolaeth ddydd Llun.
Fe gafodd y gwasanaethau brys wybod fod y ddau ar goll yn ardal Llanbedr am 4pm ddydd Sadwrn.
Ar ôl derbyn galwad bod y ddau wedi syrthio i lawr Rhaeadr Nantcol fe chwiliodd hofrennydd, criwiau ambiwlans a dau ddeifiwr amdanyn nhw.
Daethpwyd o hyd i'r cyrff ddwy awr yn ddiweddarach mewn pwll.
Mae'r heddlu a'r awdurdod lleol yn ymchwilio'n llawn ac mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.
'Rhywbeth o'i le'
Y ddau ddeifiwr oedd rheolwr Maes Gwersyll Mochras, Richard Workman, a'i gydweithiwr, James Hordley.
"Mi welon ni'r hofrennydd uwchben y rhaeadr ac felly mi oedden ni'n gwybod bod rhywbeth o'i le," meddai Mr Workman.
"Mi gynigiodd y ddau ohonon ni helpu chwilio am y ddau a chytunodd yr heddlu.
"Mae'n rhaid ein bod ni yn y dŵr am awr."
Dywedodd Mr Hordley: "Y cyfan yr oeddwn i'n meddwl amdano oedd dod o hyd i'r ferch a mynd â hi'n ôl yn saff."
'Peryglon'
Dywedodd Alan Edwards, rheolwr diogelwch cymunedol y gwasanaeth tân: "Cafodd y ddau gorff eu darganfod mewn pwll am 5.56pm nos Sadwrn.
"Mae'r drychineb yn dangos beth yw peryglon nofio mewn mannau sy ddim yn gyfarwydd i bobl.
"Dylai pawb fod yn fwy gofalus nag arfer wrth fentro i'r dŵr neu wrth ymyl dŵr."
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Rhaeadr Nantcol (Saesneg)
Heddlu Gogledd Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol