
Mae tîm cynhyrchu ac actorion y gyfres Doctor Who yn dechrau ffilmio'r gyfres newydd yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Matt Smith yw'r Doctor yn y gyfres newydd - yr 11eg actor i chwarae'r rôl - gan olynu David Tennant.
Karen Gillan sy'n portreadu cydymaith y Doctor, cymeriad o'r enw Amy Pond.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu yng ngwanwyn 2010.
Dywedodd Matt Smith ar ddiwrnod cyntaf y ffilmio: "Dwi'n teimlo'n freintiedig ac yn falch i fod yn rhan o'r sioe eiconig hon.
"Mae'r sgriptiau yn wych - rwy'n gyffrous iawn ynghylch yr holl anturiaethau y byddaf yn wynebu wrth chwarae'r Doctor ".
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Doctor Who
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol