Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 19 Gorffennaf 2009, 08:29 GMT 09:29 UK

Rhaeadr: Merch a dyn yn marw

Rhaeadr Nantcol

Mae merch dair oed a dyn 33 oed wedi marw ar ôl cwympo 50 troedfedd i lawr rhaeadr ger Harlech.

Y gred yw bod y ddau'n dad a merch a bod y teulu o Fanceinion yn gwersylla gerllaw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys wybod fod y ddau ar goll yn Llanbedr am 4pm ddydd Sadwrn.

Ar ôl derbyn galwad bod y ddau wedi cwympo i lawr Rhaeadr Nantcol fe chwiliodd hofrennydd, criwiau ambiwlans a dau ddeifiwr amdanyn nhw.

Daethpwyd o hyd i'r cyrff ddwy awr yn ddiweddarach mewn pwll.

Mae'r heddlu a'r awdurdod lleol yn ymchwilio'n llawn ac mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.

'Rhywbeth o'i le'

Y ddau ddeifiwr oedd rheolwr Maes Gwersyll Mochras, Richard Workman, a'i gydweithiwr, James Hordley.

"Mi welon ni'r hofrennydd uwchben y rhaeadr ac felly mi oedden ni'n gwybod bod rhywbeth o'i le," meddai Mr Workman.

"Mi gynigiodd y ddau ohonon ni helpu chwilio am y ddau a chytunodd yr heddlu.

"Mae'n rhaid ein bod ni yn y dŵr am awr."

Dywedodd Mr Hordley: "Y cyfan yr oeddwn i'n meddwl amdano oedd dod o hyd i'r ferch a mynd â hi'n ôl yn saff."

'Peryglon'

Dywedodd Alan Edwards, rheolwr diogelwch cymunedol y gwasanaeth tân: "Cafodd y ddau gorff eu darganfod mewn pwll am 5.56pm neithiwr.

"Mae'r drychineb yn dangos beth yw peryglon nofio mewn mannau sy ddim yn gyfarwydd i bobl.

"Dylai pawb fod yn fwy gofalus nag arfer wrth fentro i'r dŵr neu wrth ymyl dŵr."





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd