Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009, 10:03 GMT 11:03 UK

John Hartson: Yn sefydlog

John Hartson

Mae cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, yn ddifrifol ond yn sefydlog wedi iddo ailddechrau triniaeth radiotherapi yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Fe gafodd fynd yn ôl i'r uned gofal dwys yn Ysbyty Treforys.

Y penwythnos diwethaf fe gafodd wybod fod ganddo ganser y ceilliau sydd wedi lledu i'w ymennydd a'i ysgyfaint.

Cafodd lawdriniaeth frys ar yr ymennydd ddydd Mawrth.

Mae'r teulu wedi synnu at y miloedd o negeseuon sy'n dymuno'n dda i gyn-ymosodwr Cymru, Arsenal a Celtic.

Mewn datganiad dywedodd y teulu: "Rydyn ni eisiau cydnabod gofal a sgiliau meddygol staff ysbytai Treforys a Singleton.

"Rydyn ni hefyd am gydnabod pa mor broffesiynol yw'r gwasanaeth ambiwlans.

"Mae'r teulu yn gofyn eto i bobl barchu preifatrwydd John, ei deulu a channoedd o gleifion eraill sydd yn yr ysbytai.

"A dweud y gwir, rydyn ni wedi ein syfrdanu oherwydd y miloedd o negeseuon cefnogaeth ac ewyllys da sydd wedi dod oddi wrth gefnogwyr pêl-droed, pobl gyffredin, clybiau a phobl o fyd y campau ledled y byd.

"Mae'r negeseuon yn hwb enfawr i'r teulu."





HEFYD:
Hartson: Canser yn lledu i'w ysgyfaint (15 Gorff 09 |  Newyddion )
Hartson yn dioddef o ganser (13 Gorff 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Hartson yn ymddeol
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd