Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 18 Gorffennaf 2009, 08:29 GMT 09:29 UK

£30m: 'Hyd at 650 o swyddi'

Prifysgol Abertawe

Mae'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi dweud bod bron £30 miliwn ar gael ar gyfer datblygu ail gam y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Gallai hyn arwain at hyd at 650 o swyddi.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi £8.5 miliwn a'r Gronfa Gydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd yn cyfrannu £12.8 miliwn.

Fe fydd y brifysgol yn cyfrannu £6.4 miliwn a'r ymddiriedolaeth iechyd leol yn cyfrannu £1 miliwn.

Mae'r ail gam hwn yn cynnwys canolfan ymchwil clinigol fydd yn "datblygu cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y diwydiant gofal iechyd".

Fe gafodd cam cyntaf y sefydliad ei agor yn 2007 ac yno mae labordai sy'n ymchwilio i ganser, gordewdra a chlefyd siwgr.

'Safle gorau'

Dywedodd Mr Morgan: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos ... ein bod yn gosod Cymru yn y safle gorau posibl i fod yn gystadleuol pan fydd y sefyllfa economaidd yn gwella.

"O fwrw ymlaen ag ail gam y sefydliad, fe allwn ni ddatblygu'r clwstwr gwybodaeth gwyddor bywyd yn y de-orllewin.

"Mae'r maes hwn eisoes yn tyfu ac yn rhoi'r ardal hon ymhlith y cryfa yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart: "Mae hyn yn dangos y pwyslais yr ydyn ni'n ei roi ar ymchwil meddygol a'r manteisio y gall eu creu.

"Rhaid dweud bod gwaith y sefydliad yn ategu'r astudiaethau a datblygiadau yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gafodd ei sefydlu'r llynedd."

'Pwysig iawn'

Mae Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard B Davies wedi dweud: "Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig iawn i'r brifysgol.

"Bydd yr arian yn golygu y gall yr Ysgol Feddygaeth greu canolfan ragoriaeth ym maes ymchwil gwyddor bywyd.

"Bydd yr ardal a gweddill y wlad ar eu hennill."

Ym Mhrifysgol Abertawe, gafodd ei sefydlu yn 1920, mae mwy na 13,800 o fyfyrwyr.





HEFYD:
Prifysgol: Ystyried symud campws (14 Tach 05 |  Newyddion )
Prifysgolion: Cynnig graddau eu hunain (21 Tach 08 |  Newyddion )
Coleg i gau pedair adran? (22 Maw 04 |  Newyddion )
'Sefydlu uned coleg heb drafod' (13 Mai 04 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Prifysgol Cymru Abertawe
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd