Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009, 13:28 GMT 14:28 UK

Ysgol: Mesurau arbennig

Ysgol gynradd (Cyffredinol)

Mae corff arolygu wedi penderfynu cyflwyno mesurau arbennig mewn ysgol.

Roedd Estyn wedi cynnal arolwg yn Ysgol y Parc yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn gynt yn y flwyddyn.

Mae'r adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, wedi dweud: "Dyw'r ysgol ddim yn datblygu fel y dylai ... oherwydd tyndra a diffyg cydweithio ..."

Ond mae hefyd wedi dweud bod nodweddion da'r ysgol yn gryfach na gwendidau o ran cyraeddiadau'r plant.

Dywedodd y llywodraethwyr eu bod yn siomedig.

"Rydan ni'n derbyn fod yr ysgol yn wynebu her sylweddol ond yn benderfynol o weithredu'r argymhellion efo help yr awdurdod addysg."

Maen nhw wedi dweud bod yr ysgol wedi wynebu "ychydig o flynyddoedd anodd" oherwydd y bygythiad o gau.

'Siomedig'

Erbyn hyn, mae'r llywodraethwyr wedi paratoi cynllun gweithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Yn naturiol, mae'r awdurdod addysg yn siomedig.

"Ond mae wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethol y bydd yn rhoi digon o gefnogaeth fel bod modd rhoi'r cynllun gweithredu ar waith o fewn misoedd.

"Rydan ni'n sicr y bydd cydweithio'n golygu y bydd safonau'n gwella ..."





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Estyn
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd