Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 15:15 GMT 16:15 UK

Wal yn syrthio ac yn cau ffordd

Constitution Hill, Abertawe

Bu'n rhaid i drigolion un o strydoedd amlyca Abertawe symud allan ar ôl i wal uchel syrthio i'r ffordd.

Fe wnaeth rhan o wal Constitution Hill, yn agos i ganol y ddinas, syrthio yn fuan ar ôl hanner nos.

Dywedodd un o'r trigolion lleol, Luke England, fod hi'n "wyrth" nad oedd neb yn pasio ar y pryd.

Disgrifiodd ddarnau o'r wal 10 medr (32 troedfedd) fel rhai cymaint â maint car Mini.

Constitution Hill, Abertawe

Dywedodd y gwasanaethau brys bod trigolion Ffordd Cromwell wedi cael eu symud fel mater o ddiogelwch.

"Mae 'na lanast llwyr yna," meddai Mr England.

Ychwanegodd bod 'na law trwm yn yr ardal ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r ardal tua 00.30am ddydd Sul.

Fe fuodd swyddogion ar y safle tan i beiriannydd nwy â pheiriannydd o'r cyngor gyrraedd y safle.

Chafodd neb anafiadau.

Mae Constitution Hill yn ardal Townhill o'r ddinas.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Abertawe
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd