Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 13:49 GMT 14:49 UK

150 mlynedd ers agor mynwent

Golygfa o Fynwent Cathays ar gerdyn post tua 1900

Bu diwrnod agored yn un o fynwentydd Caerdydd ddydd Sul.

Mae 'na 150 mlynedd ers i Fynwent Cathays agor.

Dywed Cymdeithas Ffrindiau'r Fynwent bod y fynwent a'r capeli yn rhan o dreftadaeth Oes Fictoria y brifddinas.

Maen nhw'n hynod o fach o ddathlu'r hanes.

Cafodd llyfr am hanes y fynwent ei gyhoeddi i gyd fynd â'r 150 mlynedd.

Roedd y diwrnod agored yn gyfle i'r cyhoedd hefyd weld y gwaith atgyweirio ar rai o'r adeiladau sydd yno.

"Un o'r pethau pwysig yr ydan i wedi ei wneud ydi ail wneud y capeli sydd yn y fynwent," meddai John Farnhill, un o ffrindiau'r fynwent.

"Mae'r cyngor wedi helpu ac wedi canfod arian i atgyweirio'r to.

"Does 'na ddim byd yna, dim trydan, dim nwy, dim dŵr.

Mynwent Cathays

"Mae 'na lot fawr o waith i'w wneud eto a fydd yn costio arian."

Arglwydd Faer Caerdydd, Brian Griffiths, wnaeth ddadorchuddio plac yn y fynwent i nodi'r 150 mlynedd a chychwyn y gwaith o adfer y capel a'r marwdy.

Mynwent Cathays ydi'r fynwent drefol mwya yng Nghymru.

Cafodd ei hagor fel ymateb i'r Ddeddf Claddu cyntaf o ganlyniad i haint colera.

Mae'r fynwent yn cwmpasu 100 acer o dir ac mae'n cynnwys beddi nifer o arweinwyr dinesig a busnes Caerdydd.

Cafodd y bocsiwr Jim Driscoll ei gladdu yno a'r Capten Ernest Willows.

Ym mis Ionawr 2009 y cychwynnodd yr apêl u godi £100,000 er mwyn adfer adeilad y capeli - un oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr Anglicaniaid ac un gan yr anghydffurfwyr - i'w hen ogoniant.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Mynwent Cathays
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd