Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 10:19 GMT 11:19 UK

Ffliw: Dau achos newydd

Pamffled gwybodaeth ffliw moch

Mae 'na 64 achos o'r ffliw moch wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru gyda dau achos newydd.

Mae 9,722 o achosion wedi eu cadarnhau yn y DU erbyn hyn ac 15 person wedi marw, 2 yn Yr Alban ac 13 yn Lloegr.

Caiff achos dynes 45 oed o Bowys ei gysylltu ar ôl teithio i Sbaen.

Mae hi'n gwella yn yr ysbyty.

Ac mae salwch dynes 28 oed o Gaerdydd hefyd yn cael ei gysylltu gyda thaith i Sbaen.

Mae hi wedi cael cynnig triniaeth gwrthfiotig ac yn gwella.

Mae saith o bobl wedi cael triniaeth ysbyty yng Nghymru ac mae pump wedi cael eu rhyddhau.

BETH I'W WNEUD?


Ledled y byd mae achosion mewn 135 o wledydd.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi dweud bod "cynlluniau cadarn" yn barod.

"Y cyngor gwyddonol yw y bydd 'na gynnydd yn y nifer o achosion yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

"Rydym yn ei drin yn hytrach na'i arafu rhag lledu ac yn dibynnu ar symptomau clinigol yn hytrach na phrofion labordy i gadarnhau achosion."

Dywedodd Dr Jewell y dylai rhai sy'n diodde o'r ffliw aros gartref a chadarnhau'r symptomau gyda gwasanaeth Galw Iechyd Cymru y symptomau.

"Ddyle nhw ddim mynd i'r feddygfa na'r adran frys rhag ofn iddyn nhw ledu'r ffliw," meddai.

"Mae tystiolaeth hyd yma yn awgrymu mai mân symptomau y mae pobl yn eu diodde a'u bod yn gwella o fewn hyd at saith niwrnod."





HEFYD:
Ffliw moch: Pwy sy'n talu? (03 Gorff 09 |  Newyddion )
Ffliw moch: Achos tebygol cynta (29 Mai 09 |  Newyddion )
Ffliw moch: Profion ar 90 (27 Mai 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd