Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 15:01 GMT 16:01 UK

Arestio gyrrwr wedi i fenyw farw

Mae gyrrwr car 24 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw oedd yn teithio yn y car farw.

Fe wnaeth y car daro yn erbyn coeden yn Ystradgynlais nos Sadwrn.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ryddhau'r fenyw 24 oed o'r car gyferbyn â chyffordd Caerlan ger gorsaf bysiau Veola yn y dref, ond roedd hi wedi marw.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y car Audi gwyn wedi gadael y ffordd ar yr A4067 toc wedi 11pm.

Mae'r gyrrwr yn cael ei holi yng ngorsaf Aberhonddu.

Cafodd dau deithiwr arall oedd yn y car anafiadau i'w gwddf ac fe gawson nhw driniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Wrth i'r heddlu ymchwilio roedd y ffordd ar gau.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n rhyddhau enw'r fenyw ar hyn o bryd a'u bod yn cysylltu gyda'i theulu.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion a allai fod yn teithio yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu 0845 330 2000.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Heddlu Dyfed Powys
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd