Aed â dyn i'r ysbyty i gael triniaeth am losgiadau ar ôl i'w babell fynd ar dân.
Fe ddigwyddodd hyn ar safle gwersylla yn Nhyddewi nos Sadwrn.
Cafodd y dyn losgiadau i'w wyneb a'i ddwylo ar safle Maes Carafannau Caerfai tua 8pm.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys roi triniaeth iddo ar y safle cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r ysbyty.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y tân wedi cael ei ddiffodd erbyn iddyn nhw gyrraedd.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Maes Carafannau Carfai (Saesneg)
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol