Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 08:37 GMT 09:37 UK

Ffermwr: Damwain ar y llethrau

Cafodd ffermwr defaid ei gludo i'r ysbyty ar ôl damwain ar ei feic modur pedair olwyn.

Roedd y ffermwr yn gweithio ar y llethrau i'r gogledd ddwyrain o Fethesda pan wnaeth y beic droi drosodd a glanio ar ei ben.

Cafodd anafiadau i'w asennau.

Cafodd y ffermwr, sy'n ei 50au, ei gludo gan hofrennydd y Llu Awyr o'r Fali, i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Y Llu Awyr yn Y Fali (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd