Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2009, 16:18 GMT 17:18 UK

Criced: Munud o dawelwch

Alcwyn Jenkins

Fe wnaeth clybiau criced yn ne Cymru gynnal munud o dawelwch cyn eu gemau ddydd Sadwrn er cof am ddyfarnwr fu farw ar ôl cael ei daro gan bêl.

Roedd Alcwyn Jenkins, 72 oed o Sgiwen ger Castell-nedd, yn dyfarnu yn Sain Helen, Abertawe, ddydd Sadwrn diwethaf pan gafodd ei daro yn ei ben.

Bu farw'r gŵr gweddw wrth gael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn y ddinas.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal ym Margam ddydd Iau.

Roedd Cymdeithas Criced De Cymru wedi annog bob un o'r 46 tîm cyntaf ac ail dîm i gymryd rhan yn y munud o dawelwch er cof am Mr Jenkins.

Roedd o'n dyfarnu gêm gynghrair rhwng Abertawe a Llangennech pan gafodd ei daro.

Fe wnaeth chwaraewyr a'r gwasanaethau brys geisio ei helpu ond bu farw ar y ffordd i'r ysbyty.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd 'na amgylchiadau amheus.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Mr Jenkins a oedd yn ddiweddar yn rhan o daith Cymdeithas Criced De Cymru i India'r Gorllewin.

Bu'n ddyfarnwr am 25 mlynedd.

"Roedd Alcwyn Jenkins yn ddyfarnwr uchel ei barch yn ne Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf ac yn aelod gwerthfawr o Gymdeithas Swyddogion Criced ar Fwrdd Criced Cymru a Lloger," meddai eu cadeirydd, Roger Knight.





HEFYD:
Criced: Dyfarnwr yn marw (05 Gorff 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cymdeithas Criced De Cymru (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd