
Fe wnaeth Irene James, Aelod Cynulliad Islwyn, gyhoeddi na fydd hi'n sefyll yn Etholiad y Cynulliad nesa yn 2011.
Cafodd yr aelod Llafur ei hethol i'r Cynulliad ym mis Mai 2003.
Fe wnaeth Mrs James y cyhoeddiad nos Wener.
Dywedodd ei bod yn amser iddi adael a threulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau.
"Bu'n bleser gweithio gyda'r Prif Weinidog Rhodri Morgan a'r tîm o gynrychiolwyr Llafur Cymru," meddai.
Dywedodd yr aelod sydd yn ei 50au, iddi weithio ar gyfer swyddi yn Islwyn, buddsoddiad ar gyfer addysg ac iechyd.
"Rwy'n dal i fod yn gefnogol i'n gwaith a byddaf yn rhoi fy ngorau tan yr etholiadau yn 2011," ychwanegodd.
"Mae hi wedi bod yn bleser gweithio ar ran pobl Islwyn ac rwy'n gwybod bod Llafur Cymru wedi helpu i wella bywydau'r bobl."
Dywedodd Aelod Seneddol Islwyn, Don Touhig, bod Mrs James wedi bod yn aelod "o'r radd flaenaf".
"Mae hi wedi rhoi Islwyn gyntaf bob tro.
"Talaf deyrnged i'w gwaith caled a dwi'n falch iawn o fod wedi gweithio gyda hi a dymunaf y gorau iddi i'r dyfodol."
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy, y bydd 'na golled ar ôl Mrs James yng ngwleidyddiaeth Cymru.
"Mae hi'n gwbl deyrngar i'r Blaid Lafur a'i gwerthoedd," meddai.
Eisoes mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Brian Gibbons a'r Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson wedi cyhoeddi na fydden nhw'n dychwelyd i Fae Caerdydd yn 2011.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Llywodraeth y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llafur Cymru (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol