Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 19:23 GMT 20:23 UK

Y Senedd ar frig adeiladau gwyrdd

Y tu fewn i adeilad y Cynulliad

Mae adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd wedi cael ei enwi'n adeilad llywodraeth mwyaf gwyrdd y Deyrnas Unedig.

Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Prydain Werdd.

Gall y feddalwedd 'IRT Energy' gyfrifo faint o ynni a gaiff ei golli a faint o lygredd a gaiff ei allyrru drwy doeau a ffenestri.

Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy: "O'r cychwyn cyntaf, gorchwyl adeilad y Senedd oedd bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

"Mae'r wobr hon gan 'IRT Energy' yn dangos ein bod wedi cyflawni hynny, nid yn unig ar lefel y DU, ond hefyd o gymharu'r Senedd ag adeiladau Llywodraeth/cyrff deddfwriaethol yn yr Almaen."

"Bob mis, rwy'n cyfarfod â channoedd o ymwelwyr sydd wedi gwirioni ar yr adeilad ond mae cynaliadwyedd yr adeilad hefyd yn creu argraff arnynt.

"Mae'r Senedd yn adeilad eiconig i Gymru ac mae hefyd yn eiconig mewn synnwyr amgylcheddol. Rwy'n gobeithio bod hyn yn gosod y safon ar gyfer adeiladau cyhoeddus ar draws Cymru a gweddill y DU."

Adeiladwyd y Senedd i'r fanyleb amgylcheddol uchaf (Rhagoriaeth BREEAM).

Fel gweddill ystâd Bae Caerdydd, mae'r Senedd wedi ennill rhagoriaeth Lefel 5 yn System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd.





HEFYD:
Gwobr 'werdd' i siambr y Cynulliad (29 Ion 06 |  Newyddion )
Lluniau: Adeilad y Cynulliad (21 Medi 05 |  photo galleries )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd