
Fe ddylai llwybr sy'n ymestyn o gwmpas arfordir Cymru fod wedi ei gwblhau erbyn y Gemau Olympaidd yn 2012 ar ôl i £9 miliwn gael ei roi o gronfa £25 miliwn.
Bydd cynlluniau eraill yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn elwa o'r gronfa a fydd yn creu swyddi mewn "economi werdd".
Daw hanner yr arian o arian Ewrop tra bod y gweddill yn arian cyfatebol.
Fe fydd llwybrau beicio, canolfannau ymwelwyr a safleoedd ar gyfer pysgota ar draws Cymru yn derbyn buddsoddiad.
850 milltir
Pwysleisiodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson, bwysigrwydd creu llwybrau ar draws arfordir Cymru.
"Un o brif asedau economaidd Cymru ydi'r 850 milltir o arfordir," meddai.
Fe fydd tua £4 miliwn o arian Ewrop yn mynd tuag at wella adrannau o lwybrau a'u gwneud yn addas ar gyfer pob defnyddiwr.
Fe fydd gan gymunedau lleol lais ar ddatblygiadau a chynlluniau.
Caiff ymwelwyr eu hannog i ddod i Gymru i bysgota gyda mwy o safleoedd ar agor o dan gynllun Pysgota Gwyllt Cymru.
Un o brif amcanion y gronfa, sy'n cael ei dosbarthu gan Lywodraeth y Cynulliad, yw i ddatblygu mwy o gyfleodd i ymwelwyr a chynhyrchu economi mewn rhannau o gefn gwlad Cymru.
"Dwi'n gobeithio y bydd y cynllun yn dod yn fyw drwy'r arian Ewropeaidd a fydd yn dangos yn glir sut y gall yr amgylchedd chwarae rhan i greu swyddi a datblygu economi cynaliadwy," meddai John Taylor o Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Daw'r arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Llywodraeth y Cynulliad
Cymdeithas y Cerddwyr
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol