Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 11:33 GMT 12:33 UK

Damwain: Merch yn marw

Damwain

Mae merch dair oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl damwain ffordd yn Essex pan gafodd ei mam ei lladd.

Roedd car Michelle Williams, 38 oed o Dyn-y-gongl ger Benllech, Ynys Môn, wedi taro cefn lori oedd wedi parcio mewn cilfan ar yr A127 yn East Horndon ar Orffennaf 1.

Cafodd Ruby Williams anafiadau difrifol cyn cael triniaeth yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Bu farw ddydd Iau.

Roedd gyrrwr y lori yn cysgu ar y pryd ac ni chafodd ei anafu.

Roedd y fam a'i merch wedi ymweld â pherthnasau yn Wickford cyn teithio yn ôl i Gymru.

Mae'r heddlu yn chwilio am dystion i'r ddamwain.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu Essex ar 0300 3334444





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Heddlu Essex (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd