Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 06:56 GMT 07:56 UK

Ymddeol: 'Yn falch o lwyddiant'

Ar ei ddiwrnod olaf yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru mae Richard Brunstrom wedi sôn am ei falchder a'i edifeirwch.

Bu'n brif gwnstabl am bron naw mlynedd ac yn falch fod gostyngiad mewn lefelau troseddu ond yn difaru ei fod weithiau wedi "dod yn destun stori".

Richard Brunstrom

Er bod y cyfnod yn ddadleuol dywedodd ei fod yn "gyffrous iawn".

Oherwydd ei alw am gyfreithloni rhai cyffuriau caled a'i bolisi o dargedu pobl sy'n goryrru, fe gafodd ei feirniadu.

Er hynny, roedd ganddo farn gref am yr iaith Gymraeg ac roedd o blaid hunanreolaeth i Gymru.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2000 ac mae wedi ennill nifer o gymwysterau cyn cael ei urddo'n Dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd yn 2006.

Mae wedi bod yn blismon am 30 mlynedd.

'Llwyddiannus'

Wrth iddo adael ei swydd, dywedodd fod troseddu wedi gostwng 50% yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

GYRFA RICHARD BRUNSTROM


"Dwi'n teimlo ein bod wedi cael cyfnod llwyddiannus iawn ac mae'r canlyniadau yn dangos hynny gan fod nifer y troseddau i lawr," meddai.

Dywedodd fod y "mwyafrif" yn cefnogi ei safiad ar draffig a'i fod o blaid codi carchar yng Nghaernarfon.

Wrth gyfeirio at y disgrifiad yn y Daily Mail ohono fel "Mullah Dwl Taliban y Traffig" - oherwydd ei agwedd at oryrru - dywedodd ei fod yn "ddoniol ond yn wirion".

Dywedodd ei fod yn difaru mai ef oedd testun stori weithiau.

Yn 2007 cafodd ei feirniadu am ddangos llun o feiciwr marw i'r wasg heb ganiatâd y teulu.

Roedd y lluniau'n dangos pen wedi ei ddatgysylltu o gorff wedi damwain ffordd.

Ym mis Medi 2007 penderfynodd y byddai'n fodlon cael ei saethu gan wn taser 50,000 folt er mwyn profi ei fod yn arf diogel.

Wedyn ym mis Rhagfyr roedd adroddiadau ei fod wedi torri i mewn i bencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn er mwyn tynnu sylw at ddiogelwch.

Yn ddiweddarach, roedd adroddiadau'n awgrymu nad oedd ei allwedd yn gweithio.

Ei gyngor i'w olynydd yw "Dilynwch eich llwybr eich hun".

Mae Mr Brunstrom yn gobeithio "gwerthu popeth" er mwyn prynu cwch a theithio ynddo gyda'i wraig.





HEFYD:
Llai o gosbi am oryrru? (26 Ebr 07 |  Newyddion )
Cyllid: 'Llai o blismyn ar stryd' (15 Ion 07 |  Newyddion )
Pennaeth heddlu o dan y lach (01 Tach 06 |  Newyddion )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd