
Mae 149 o swyddi dan fygythiad yn nau safle Corus yn y de oherwydd adolygiad.
Dywedodd y cwmni y byddai'r diswyddiadau yn safleoedd Port Talbot a Llanwern ger Casnewydd.
Yr adrannau sy'n debyg o ddiodde yw swyddi sy'n cefnogi'r gwaith cynhyrchu - adnoddau dynol, cyllid a'r labordai.
Bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Llun a dywedodd llefarydd y cwmni y bydden nhw'n trafod gyda'r undebau.
2,000
Fe gyfaddefodd y gallai cyfanswm y swyddi fod yn llai.
Cafodd yr adolygiad gweithredol ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn tua'r un pryd ag y cyhoeddwyd 528 o ddiswyddiadau oherwydd atal gweithio'r felin boeth yn Llanwern.
Ychwanegodd y llefarydd fod llai o weithwyr cynhyrchu'n golygu cael gwared ar swyddi busnes cysylltiedig.
Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y cwmni dur y byddai 2,000 o swyddi yn cael eu colli yn Scunthorpe, Rotherham a Teesside.
Mae Corus yn rhoi'r bai ar lai o alw am ddur yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Corus (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol