Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 07:23 GMT 08:23 UK

Ymgyrch: 'Ddim yn wastraff amser'

Alan Brotheridge ger y safle

Mae ymgyrchwyr yn erbyn symud hen safle gwastraff llechi yn Nyffryn Nantlle wedi dweud eu bod wedi ennill y frwydr.

Roedd trigolion Tal-y-sarn ger Pen-y-groes wedi honni bod y safle 3.7 erw, Hen Domen, yn gartref i fywyd gwyllt, gan gynnwys llyffantod.

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei wrthod.

Roedd y trigolion wedi dadlau nad oedd y safle'n addas i godi tai arno.

Dywedodd Cyngor Gwynedd, oedd eisiau defnyddio'r safle llechi i greu tomen arall, y bydden nhw'n "ystyried ffynonellau eraill".

"Rydan ni'n hapus iawn," meddai cadeirydd Achub Gloddfa Glai, Allan Brotheridge.

"Mi aeth 20 ohonon ni i gyfarfod y cyngor ac ni enillon ni wedi dadl danbaid."

Gwrthod

Dywedodd y cyngor fod Pwyllgor Cynllunio Arfon wedi gwrthod cais i symud hen domen wastraff.

Cafodd caniatâd ei wrthod yn achos bwriad i drefnu mynediad i gerbydau oedd i fod i gludo deunydd er mwyn adfer safle tirlenwi Cilgwyn.

Hefyd cafodd caniatâd ei wrthod o ran rhyddhau'r tir i bwrpas datblygu.

"Fe fydd y cyngor yn ystyried ffynonellau eraill o wastraff llechi cyn y bydd y gwaith capio'n dechrau yng Nghilgwyn," meddai'r cyngor.





HEFYD:
Dicter pentref am glirio llechi (04 Meh 09 |  Newyddion )
Diwedd cyfnod i domen ddadleuol (31 Rhag 08 |  Newyddion )
Cyngor o blaid estyn oes tomen (05 Meh 07 |  Newyddion )
Cyngor am ailagor tomen (06 Meh 06 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Gwynedd
Adnabod ardal: Dyffryn Nantlle
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd