
Mae'n ddiwrnod hanesyddol wrth i Gyfres y Lludw gael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf.
Ac mae disgwyl hyd at 100,000 yn ystod y prawf pum niwrnod yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Dylai cefnogwyr ganiatáu digon o amser i gyrraedd oherwydd mwy o draffig, mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwaith ar draffordd yr M4.
Mae disgwyl y bydd tua 40 miliwn o bobl yn gwylio'r gêm yn fyw ar y teledu a hyd at 100 miliwn yn gwylio'r uchafbwyntiau.
Gobaith Cyngor Sir Caerdydd yw marchnata'r ddinas yn fwy eang.
Mae 'na amcangyfrif bod y prawf yn golygu hyd at £15 miliwn i'r economi leol.
Dyma'r tro cyntaf i unrhyw gêm yn y gyfres gael ei chynnal y tu allan i Loegr ac Awstralia.
Mae'r seremoni agoriadol am 10.30.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, y byddai'r gyfres yn "hwb" i economi'r ardal.
CYNGOR I DEITHWYR
"Rydyn ni wedi gweld nifer o brif ddigwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y 10 mlynedd diwethaf o Gwpan Rygbi'r Byd i gemau rownd derfynol Cwpan yr FA.
"Ond hwn yw'r tro cyntaf i gêm brawf criced gael ei chynnal yma."
Gan ei fod yn gefnogwr criced dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at wwylio rhywfaint o'r chwarae.
"Gyda 16,000 o bobl bob dydd yn y stadiwm, mae disgwyl i'r rhan hon o Gymru elwa'n fawr ar y Lludw," meddai.
"Nid yn unig y bydd yn dangos i weddill y byd ba mor wych ydi Caerdydd ond fe fydd yn hwb ychwanegol i'r economi leol."
Mae 'na dagfeydd ar draffordd yr M4 am fod gwaith lledu'r ffordd rhwng Cyffordd 29 a 32 ac mae 'na gyfyngiadau cyflymder rhwng Cyffordd 24 a 27.
Ni ddylai ymwelwyr geisio parcio ger y stadiwm ond defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gyfleusterau parcio a theithio.
Dylai gyrwyr ddilyn arwyddion penodol yn lle defnyddio system lloeren.
"Rydym yn disgwyl tua 100,000 o ymwelwyr yn y ddinas dros y dyddiau nesaf," meddai'r Prif Arolygydd Steve Murray o Heddlu De Cymru.
"Fe fydd ffyrdd yn y ddinas yn brysur iawn yn ystod yr oriau brig.
"Dylai pobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chaniatáu digon o amser i gyrraedd y ddinas."
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (Saesneg)
Clwb Criced Morgannwg (Saesneg)
Cyngor Caerdydd
Chwaraeon BBC Cymru: Criced
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol