Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009, 07:48 GMT 08:48 UK

£1.6m at 'em gelfyddydol'

Cor o Japan yn Llangollen

Wrth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddechrau daeth cyhoeddiad y bydd £1.6 miliwn yn cael ei roi at adnewyddu'r pafiliwn.

Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, gyhoeddodd hyn.

Dywedodd fod yr arian ar gyfer adnewyddu a chynnal a chadw'r Pafiliwn Brenhinol yn Llangollen yn sicrhau dyfodol yr ŵyl.

Llywodraeth y Cynulliad fydd yn cyfrannu £1 miliwn a Chyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu £600,000.

"Mae Eisteddfod Llangollen yn un o emau celfyddydol Cymru," meddai Mr Jones.

'O bob cwr'

"Ac mae'r digwyddiad blynyddol yn denu ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o'r byd.

"Mae'n gwneud cyfraniad hanfodol i ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i hybu a datblygu twristiaeth gelfyddydol.

"Yng nghalon y cyfan mae'r pafiliwn a heb hwn efallai na fydd 'na eisteddfodau yn y dyfodol agos."

Dywedodd fod yr arian yn golygu y bydd gwaith yn cael ei orffen cyn gŵyl 2010.

Mae'r arian yn rhan o £14.3 miliwn fydd yn hybu economi Cymru.

Ar ddechrau'r Eisteddfod roedd Gala Agoriadol nos Lun ac mae'r cystadlu'n dechrau ddydd Mawrth.





HEFYD:
'Steddfod Llangollen: Creu archif (06 Gorff 09 |  Newyddion )
Llangollen: 'Llygedyn o obaith' (06 Gorff 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (Saeaneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd