Mae dau ddyn wedi eu carcharu ar ôl eu cael yn euog o ladd dyn 40 oed.
Cafodd Jonathan Bennett anafiadau difrifol i'w ben ar ôl yr ymosodiad tu allan i dafarn Grapevine yn Y Rhyl ym mis Chwefror, clywodd Llys y Goron Caernarfon.
Aed ag ef i Ysbyty Glan Clwyd cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty Walton yn Lerpwl lle bu farw bythefnos yn ddiweddarach.
Cafodd Thomas Bryan, 45 oed o Ruddlan, ei garcharu am dair blynedd ar ôl cyfaddef dynladdiad.
Cafodd Peter Roberts, 36 oed o Landdulas, Conwy, ei garcharu am 18 mis.