Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009, 20:00 GMT 21:00 UK

Lladrad arfog: Carcharu dyn

Gareth Siarl Williams

Mae dyn 36 oed o Ynys Môn sy'n euog o ladradau arfog wedi ei anfon i'r carchar am gyfnod amhenodol.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caer wrth Gareth Siarl Williams y byddai rhaid iddo fod dan glo am o leiaf bedair blynedd a hanner.

Roedd y diffynnydd o Fodffordd wedi dianc o Lys y Goron, Yr Wyddgrug, ddeuddydd cyn y Nadolig ar ôl dal swyddog carchar yn gaeth.

Ar y pryd roedd ar fin cael ei ddedfrydu.

Roedd wedi ei arestio ym mis Tachwedd yn Lerpwl.

Fe blediodd yn euog i ddwyn arian oddi wrth is-swyddfeydd post yn Llanddaniel, Ynys Môn, ar Hydref 24, Llanarmon-yn-Iâl ger Yr Wyddgrug ar Hydref 31 a swyddfa bost yn Ashton ger Caer ar Hydref 8.

Cyfanswm yr arian gafodd ei ddwyn oedd £11,500.

Bob tro roedd wedi bygwth isbostfeistres â chyllell fawr.

Bydd hefyd yn cael ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i bum cyhuddiad o dwyll.





HEFYD:
Lleidr: Dyn yn y llys (09 Maw 09 |  Newyddion )
Lleidr yn dianc: Chwilio'n parhau (04 Maw 09 |  Newyddion )
Lleidr yn dianc o Lys y Goron (24 Rhag 08 |  Newyddion )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd