
Mae tri achos newydd o'r ffliw moch yng Nghymru, sy'n golygu cyfanswm o 37.
Yng Nghymru mae 'na 25 achos clinigol tebygol.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr mae 7,450 o achosion wedi eu cadarnhau ac mae 'na dri o bobl wedi marw.
Mae salwch dyn 29 oed o Wrecsam a dynes 38 oed yn cael eu cysylltu â thaith i Sbaen.
Ac mae dynes 21 oed o Gaerdydd yn cael ei gysylltu'n uniongyrchol ag achos sydd wedi ei gadarnhau yng Ngwlad yr Haf.
Mae 264 o bobl wedi cael profion yng Nghymru a 168 wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n diodde o'r ffliw.
Ar hyn o bryd mae 34 o achosion yn dal i gael eu hymchwilio.
120 o wledydd
Mae 'na 1,217 o achosion yn Yr Alban, 6,162 yn Lloegr a 34 yng Ngogledd Iwerddon.
Bellach mae achosion o'r ffliw moch wedi cael eu cadarnhau mewn 120 o wledydd.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, nad oedd y ffliw yng Nghymru yn ddifrifol iawn.
BETH I'W WNEUD?"Ond rydym wedi rhybuddio pobl y bydd 'na achosion yng Nghymru ac, mewn rhai amgylchiadau, farwolaethau.
"Fel gyda ffliw blynyddol mae 'na farwolaethau, yn enwedig os ydi rhywun yn dioddef o gymhlethdodau meddygol.
"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y ffliw ers rhai blynyddoedd ac mae 'na ganllawiau mewn grym.
"Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus o hyd er mwyn atal lledu'r haint."
Dywedodd hefyd na fydd meddyginiaeth yn cael ei rhoi i bobl â chysylltiad uniongyrchol â ffliw'r moch oni bai bod meddygon yn credu bod hyn yn werth ei wneud.
"Fe fyddwn yn canolbwyntio ar roi meddyginiaeth wrth-fiotig i'r rhai â'r risg fwya, merched beichiog, plant o dan bump oed a'r rhai â chlefydau cronig," meddai.
Ychwanegodd mai'r un oedd y cyngor i'r cyhoedd, defnyddio hances bapur a'i thaflu'n syth, golchi dwylo yn gyson neu ddefnyddio hylif arbennig.
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol