Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009, 18:55 GMT 19:55 UK

Y frech goch: Dau achos newydd

Brech goch

Mae 'na ddau achos arall o'r frech goch wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Mae un yn sir Abertawe a'r llall yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ar hyn o bryd mae achosion yn 17 o'r 22 sir yng Nghymru.

Erbyn hyn cafwyd 339 o achosion, y mwyafrif ohonyn nhw'n blant.

O'r rhain mae 260 yn y gorllewin a'r canolbarth, 58 yn y gogledd a 21 yn y de-ddwyrain.

Mae un person arall, 41 i gyd, wedi cael triniaeth ysbyty.

Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru fod achosion ardal Llandudno "o dan reolaeth".

Clwy'r pennau

Mae'r gwasanaeth yn annog rhieni i drefnu pigiad MMR i'w plant.

Hefyd mae nifer achosion y clwy'r pennau'n codi.

Achosion y frech goch

Gwybodaeth Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, 5pm, Gorffennaf 2, 2009

Yn 2008 roedd 329 o achosion yng Nghymru ond dywedodd y Gwasanaeth Iechyd fod 543 o achosion wedi eu cadarnhau ers Ionawr 1 eleni.

"Erbyn hyn, mae achosion bron iawn ym mhob un o siroedd Cymru," meddai Dr Marion Lyons, Pennaeth Tîm Gwarchod Iechyd Cyhoedd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus.

"Bob dydd mae nifer yr achosion yn dal i godi ac rydyn ni'n dal i boeni am unrhyw un sydd heb gael dau ddogn o'r brechiad MMR.

"Mae'r brechiad yn saff, yn effeithiol a'r unig amddiffyniad yn erbyn y frech goch.

Difrifol

"Hefyd mae'n amddiffyniad yn erbyn clwy'r pennau sydd ar gynnydd yng Nghymru."

Dywedodd fod y ddau glefyd â sgileffeithiau difrifol.

"Mae modd i blant gael niwed ar yr ymennydd neu farw o'r frech goch ac mae cymhlethdodau clwy'r pennau yn gallu cynnwys llid yr ymennydd a cholli clyw.

"Y rhai sy fwya mewn perygl o ddal y frech goch yw plant ysgol sydd ddim wedi cael dau ddogn o'r MMR neu blant rhwng 1 a 3 oed na chafodd y brechiad cyntaf yn 13 mis oed.

"Rydyn ni'n amcangyfri bod 45,000 o blant ysgol mewn perygl o ddal y frech goch ar hyn o bryd."

Rhif cyswllt Galw Iechyd Cymru yw 0845 46 47.





HEFYD:
Brech goch: Mwy o achosion (08 Meh 09 |  Newyddion )
Galw am drafodaeth ar frechiad MMR (01 Meh 09 |  Newyddion )
Y frech goch: 'Brawychus' (19 Mai 09 |  Newyddion )
Y frech goch: Mwy o achosion (28 Mai 09 |  Newyddion )
Y frech goch: Penaethiaid yn poeni (26 Mai 09 |  Newyddion )
Brech goch: 50 am frechiad sengl (30 Mai 09 |  Newyddion )
Rhybudd i frechu plant (27 Mai 09 |  Newyddion )
Brech goch: 'Poeni'n fawr' (12 Mai 09 |  Newyddion )
'Angen brechu miloedd o blant' (09 Ebr 09 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Llywodraeth y Cynulliad
Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd