Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 11 Hydref 2008, 11:00 GMT 12:00 UK

Galw am ambiwlans - yn America

Canolfan ambiwlans Pan atebodd teleffonydd alwad brys yng Nghymru dywedodd dyn fod ei gariad â phoenau mawr - yn Nevada 5,000 o filltiroedd i ffwrdd.

Roedd Kerry Burrows, 47 oed, ar ddyletswydd yn y ganolfan ambiwlans ym Mhont-y-pŵl.

Dywedodd y dyn oedd yn y wlad hon ar y pryd ei fod newydd siarad â'i gariad beichiog ar y we a'i bod hi angen ambiwlans.

Doedd hi ddim yn gallu ffonio'r gwasanaethau brys yn yr Unol Daleithiau. Felly ffoniodd y dyn 999 yng Nghymru.

"Ces i sioc," meddai Kerry. "Roedd y sefyllfa'n gymhleth.

"Wnes i feddwl 'Beth ddiawl alla i 'i neud?'"

Pan lwyddodd i gysylltu ag ysbyty yn Nevada roedd yr ysbyty, meddai, yn meddwl bod yr alwad yn ffug.

'Tro cynta'

Wedyn fe gysyllton nhw â Heddlu Efrog Newydd a roddodd rif gwasanaeth ambiwlans yn Nevada.

"Hwn oedd y tro cynta i ni gael cais i helpu claf yn yr Unol Daleithiau," meddai Kerry.

"Roedd yn brofiad hyfryd, helpu rhywun oedd mor bell i ffwrdd."





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd