Mae Aelod cynulliad wedi gofyn i'r Asiantaeth Safonau Gyrru pam ei bod "yn fwy anodd" i basio profion gyrru yn y gogledd.
Dywedodd Chris Franks, aelod Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru, fod ystadegau'r asiantaeth yn awgrymu bod y canlyniadau'n amrywio'n "fawr" o aradal i ardal.
Tra bod 35% yn llwyddo yn y Rhyl, Sir Ddinbych, mae 63% yn llwyddo yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.
Yn ôl yr asiantaeth, mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn effeithio ar y canlyniadau.
Mae'r gyfradd llwyddo yng Nghymru yn 49%, 5% yn uwch nag yn Lloegr.
Dyma'r cyfraddau llwyddo yng Nghymru yn 2007-8:
Dywedodd Mr Franks: "Mae'n ymddangos yn fwy anodd i basio prawf gyrru yn y gogledd ... nag mewn rhannau o orllewin Cymru.
"Dwi'n siwr bod dysgwyr yn disgwyl cael eu trin yn gyfartal pa le bynnag y maen nhw'n cymryd eu prawf."
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Y mwya cyfoethog y mae ardal, y mwyaf y mae pobl yn debygol o fuddsoddi mewn gwersi ac mae mwy o gyfleoedd i ymarfer mewn ceir teuluol ac ati.
"Byddai'n annhebygol pe bai pob canolfan prawf yn cael yr un gyfradd llwyddo."