Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 27 Awst 2008, 05:48 GMT 06:48 UK

Oedi cyn agor canolfan siopa

Hen siop David Evans Fe fydd misoedd o oedi cyn agor canolfan siopa gwerth £30 miliwn sy i fod i "weddnewid" canol dinas.

Y rhesymau yw tywydd gwael a chloddio archeolegol.

Ar safle hen siop David Evans ar Ffordd y Dywysoges mae'r ganolfan yn cael ei chodi lle bydd adeilad tri-llawr o wydr a dur yn cynnwys siopau ffasiwn.

Fe allai'r cynllun olygu cannoedd o swyddi.

Yn wreiddiol, roedd y ganolfan i fod yn barod erbyn yr hydref ond y dyddiad cau newydd yw diwedd y flwyddyn.

David Evans oedd y siop fawr hyna yn y ddinas pan gaeodd ei drysau yn 2005 a chafodd ei chwalu yn 2007.

Bydd y ganolfan newydd y mae'r datblygwyr Thurleigh Estates yn ei chodi yn cynnwys siopau ffasiwn Zara, siop dillad dynion Slater ac yno y bydd siop fawr J T Morgan.

'Ofnadwy'

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae nifer o resymau am yr oedi, gan gynnwys y cloddio archeolegol ar y safle a'r tywydd ofnadwy ers ychydig o fisoedd."

Mae arweinydd y cyngor, Chris Holley, wedi dweud: "Erbyn hyn, mae'r adeiladu bron â chyrraedd y cyfnod ola ac fe fydd siopwyr yn rhyfeddu at fanteision y ganolfan newydd."

Agorodd David Evans yn Abertawe yn 1865 ac wedyn fe ddaeth yn rhan o House of Fraser.

Cafodd cerfluniau y tu allan i'r adeilad oedd yn darlunio ffasiwn ar hyd yr oesoedd eu symud a'u rhoi yn Amgueddfa Abertawe.





HEFYD:
Cau siop fawr wedi 80 mlynedd (23 Tach 06 |  Newyddion )
Y cwsmer ola mewn siop deuluol (10 Ebr 06 |  Newyddion )
Siop fawr: Diwedd cyfnod (20 Ion 05 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Abertawe
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd