Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 18 Awst 2008, 13:22 GMT 14:22 UK

Antigua: Cyhuddo dau

Benjamin a Catherine Mullany

Mae Heddlu Antigua wedi cyhuddo dyn a llanc o lofruddio cwpl o dde Cymru.

Bu'r ddau yn Llys Ynadon St Johns cyn cael eu cadw yn y ddalfa.

Cafodd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe, y ddau'n 31 oed, eu saethu yn eu hystafell westy ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ym mis Gorffennaf.

Keniel Martin, 20 oed, a llanc 17 oed a sydd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio'r cwpl.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Keith Niven: "Cafodd tystiolaeth ei chyflwyno i Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neithiwr ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i gyhuddo dau, un yn 17 oed ac un yn 20 oed."

Mae'r ddau'n wynebu cyhuddiadau o ddwyn ac o dderbyn nwyddau oedd wedi cael eu dwyn.

Cafodd y ddau eu holi ar ôl cyrch yr heddlu yn eu cartref dros y penwythnos.

Dywedodd teuluoedd y ddau gafodd eu llofruddio fod y datblygiad diweddara'n newyddion da.

'Parchu'

"Does dim sylw arall ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y cyfryngau'n parchu ein preifatrwydd ni."

Mae llefarydd Heddlu'r De wedi dweud: "Ynghynt heddi y cafodd y teuluoedd wybod am y datblygiad diweddara.

"Rydyn ni'n helpu'r ymchwiliad ac mae plismyn yn cefnogi'r teuluoedd."

Roedd Heddlu Antigua wedi holi pump o bobl mewn cysylltiad â marwolaeth y ddau. Cafodd dwy fenyw eu harestio yr wythnos diwethaf a menyw a dau ddyn dros y penwythnos.

Cafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu ar Orffennaf 27 yng Ngwesty Cocos.

Mae'r heddlu yn credu bod lladrad wedi mynd o'i le.

Bu farw Mrs Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yn ei phen ond bu farw Mr Mullany wythnos yn ddiweddarach ar ôl cael ei symud i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Cafodd y ddau eu claddu mewn seremoni breifat yr wythnos diwethaf yn yr eglwys lle priododd y ddau.





HEFYD:
Antigua: Holi tri o bobl (18 Awst 08 |  Newyddion )
Antigua: Rhyddhau pump o'r wyth (17 Awst 08 |  Newyddion )
Ben a Catherine: Gwasanaeth preifat (13 Awst 08 |  Newyddion )
Antigua: Cyhuddo dwy fenyw (15 Awst 08 |  Newyddion )
Saethu ar fis mêl: Ben wedi marw (03 Awst 08 |  Newyddion )
Antigua: Hedfan gwr adre (31 Gorff 08 |  Newyddion )
Antigua: Gwobr ariannol (30 Gorff 08 |  Newyddion )
Antigua: Dyn 'ddim yn gwella' (30 Gorff 08 |  Newyddion )
Saethu ar fis mêl: Gwraig yn marw (28 Gorff 08 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cocos Hotel (Saesneg)
Llywodraeth Antigua a Barbuda (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd