Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 6 Awst 2008, 06:20 GMT 07:20 UK

£1m: 'Hwb i'r iaith a gwaith'

Alun Ffred Jones yn cael ei holi gan Dylan Jones

Fe fydd £1 miliwn yn cael ei wario gan Lywodraeth y Cynulliad ar gynllun peilot i roi hwb i'r iaith Gymraeg ac adfywio economi cymunedau yng nghadarnleoedd yr iaith.

Yn benodol, fe fydd yr arian yn cael yn cael ei wario ym Mlaenau Ffestiniog, Caernarfon, a Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Roedd y cyhoeddiad ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Mae'r cynllun peilot yn golygu £400,000 ar gyfer Canolfan Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llyn er mwyn adfywio'r ardal leol.

Ac fe fydd arian ar gael ar gyfer cynllun ym Mlaenau Ffestiniog lle bydd pwyslais ar sut y gall yr iaith "gyfrannu at gefnogi gobeithion y gymuned o ran datblygiad economaidd."

Yn ardal Peblig yng Nghaernarfon fe fydd cynllun yn golygu hybu sgiliau yn y Gymraeg wrth chwilio am waith.

'Cryfhau'r iaith'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Adfywio, Leighton Andrews, ei bod hi'n bwysig bod cynlluniau o'r fath yn mynd i'r afael â phroblemau lleol.

"Wrth gefnogi'r iaith rydym yn cefnogi pobl yn y gymuned i ddod o hyd i waith neu gynllun hyfforddi.

Nant Gwrtheyrn

'Un o'n hamcanion yw sicrhau bod buddsoddi'n cryfhau'r iaith yn y lleoedd sy'n strategol bwysig iddi."

Fe fydd yn cyhoeddi pecyn ariannu tair blynedd pellach ar gyfer prosiectau gwledig Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys tri mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf, sef Pen Llyn, pentrefi ucheldir Tregaron, a Bro Dyfi.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ei bod hi'n croesawu'r newyddion.

"Mae'r berthynas rhwng yr iaith ac adfywio economaidd yn allweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

"Y gobaith yw y bydd modd estyn y datblygiad i ardaloedd eraill maes o law."





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd